Asiantaeth adfywio amgylcheddol lleol, rhanbarthol a chenedlaethol blaenllaw yw Groundwork yng Nghymru sy’n adeiladu cymunedau cynaliadwy ledled Cymru.
Gan weithio i gefnogi ffurfio lleoedd, mae Groundwork yng Nghymru’n defnyddio dulliau traddodiadol ac arloesol er mwyn cynorthwyo pobl leol i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a rheoli gwelliannau yn eu cymunedau.
Yn unigryw o ran ei integreiddiad o agweddau ac arbenigedd, mae’r ystod o brosiectau a ddarperir gan Groundwork yng Nghymru’n darparu adfywiad o ansawdd uchel. Lle bynnag y bo’n bosibl, mae bob amser yn ceisio ategu darparwyr a phartneriaid lleol sydd eisoes yn bodoli.
Mae Groundwork yng Nghymru, â’i hanes llwyddiannus o weithio mewn ardaloedd trefol a gwledig ledled Cymru, yn cynorthwyo Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cenedlaethol eraill i gwrdd â’u hamcanion.
Mae pum Ymddiriedolaeth Groundwork (a adnabyddir ar y cyd fel ‘Groundwork yng Nghymru’) yn gweithredu ar draws rhanbarthau Cymru:
Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot
Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf
Groundwork Caerffili
Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint
Groundwork Cymru yw’r sefydliad yng Nghymru sy’n cefnogi’r Ymddiriedolaethau lleol, yn darparu llais cenedlaethol, yn cyflwyno rhaglenni cenedlaethol, yn archwilio cyfleoedd ariannu newydd ac yn datblygu partneriaethau ledled Cymru.