Bob blwyddyn mae Groundwork yng Nghymru yn cyflawni cannoedd o brosiectau i wella ansawdd yr amgylchedd lleol, bywydau pobl leol a llwyddiant busnesau mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae angen arian ar gyfer yr holl weithgarwch hwn, ac ni fyddai modd ei wneud heb gymorth ein partneriaid. Yn 2007/2008 gwariasom ryw £9.4 miliwn ar brosiectau adfywio. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddenu cyllid er mwyn cynnal ac adeiladu ar ein gwaith gyda rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Gall cwmnïau gefnogi ein our gwaith trwy nawdd, rhoddion a rhoddion heb fod yn arian gan gynnwys secondiadau, gwirfoddoli gan weithwyr a deunyddiau. Gall unigolion gefnogi ein gwaith trwy wirfoddoli gyda’u Hymddiriedolaeth leol neu trwy roddion a chymynroddion.
Gall wneud yn siwr fod eich arian yn cyrraedd lle mae’r angen fwyaf, a’i fod yn cefnogi prosiectau fydd o ddiddordeb i chi. Gall pob rhodd, bach neu fawr, wneud gwahaniaeth go-iawn i fywydau pobl. Am bob punt a roddir yn rhodd, medrwn ddenu ar gyfartaledd £10 o ffynonellau eraill. Mae hyn yn golygu fod unrhyw gyfraniad a wnewch yn werth llawer mwy na’r swm gwreiddiol.
Os carech chi neu eich cwmni gefnogi gwaith eich Ymddiriedolaeth leol neu Groundwork yng Nghymru gyfan, cysylltwch a ni.