
Sefydlwyd Groundwork Wrecsam, yr Ymddiriedolaeth gyntaf yng ngogledd Cymru, ym 1991. Gan weithio mewn partneriaeth agos gyda’r awdurdod lleol, busnesau ac ystod eang o grwpiau a sefydliadau amgylcheddol, buan iawn y daethom yn brif sefydliad ym maes adfywio amgylcheddol.
Yn 2001, dyma ni’n ymestyn ein gwaith i Sir y Fflint, y sir nesaf. Mae gennym gylch gorchwyl hefyd i weithio fesul prosiect yn Sir Ddinbych.
Yn y 14 mlynedd ers ei ffurfio, tyfodd yr Ymddiriedolaeth yn sylweddol ac y mae bellach yn cyflogi 30 o staff. Ymhlith ein gweithwyr proffesiynol y mae rheolwyr codi arian a chyllid profiadol, swyddogion datblygu cymunedol, swyddogion addysg amgylcheddol, penseiri tirwedd a hyfforddwyr iechyd ac amgylcheddol. Gyda’r amrywiaeth helaeth hon o sgiliau, yr ydym yn cyflwyno nifer o brosiectau, gan weithio gyda phobl leol a’u dwyn i mewn i wella cymunedau, yr amgylchedd ac iechyd pobl, ac i sicrhau fod unigolion, cymunedau a busnesau yn ffynnu.
Fel elusen a chwmni cyfyngedig trwy warant, cawn gefnogaeth ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, sef aelodau o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Cawn ein cyllid craidd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Airbus UK. Mae gwaith prosiect yn cael ei gefnogi trwy sefydliadau sy’n rhoi grantiau, nawdd o’r sector preifat ac o ffynonellau cyllido eraill o’r sector cyhoeddus.
Cyfarwyddwr Gweithredol -Vanessa Griffiths
Cysylltwch a ni - Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint
www.groundworkwrexhamandflintshire.org.uk