Groundwork in Wales

English
  • Beth yw Groundwork yng Nghymru
  • Am Ein Gwaith
  • Beth fedr Groundwork wneud i chi?
  • Latest News
  • Downloads
  • Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot
  • Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf
  • Groundwork Caerffili
  • Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint
  • Groundwork Cymru
  • Green Dragon EMS
  • Valleys Regional Park
  • Cefnogwch ein Gwaith
  • Swyddi a Gwirfoddoli
  • Links
  • Cysylltwch a ni
Groundwork Cymru

newid lleoedd, newid bywydau

Groundwork Cymru

Groundwork Cymru Groundwork Cymru

WALES 354_Bi

Wedi ei sefydlu ym 1998 fel ymateb i ddatganoli, mae Groundwork Cymru yn rhedeg yr Ymddiriedolaethau Cymreig ac yn eu cefnogi trwy hybu eu record wych, cyfrannau at ddatblygu polisi, a chodi adnoddau i ddatblygu Groundwork yn y dyfodol.

Yr ydym yn helpu i sicrhau cyllid a datblygu rhaglenni a phartneriaethau allweddo mewn cydweithrediad â’r Ymddiriedolaethau. Yr ydym hefyd yn gweithio i integreiddio’n ddyfnach â’r Ffederasiwn Groundwork ehangach ac arwain wrth ddatblygu rhwydwaith Groundwork yng Nghymru, gan archwilio’r potensial ar gyfer Ymddiriedolaethau newydd neu estynedig.

Mae Groundwork Cymru yn aelod o’n partneriaethau cenedlaethol amgylcheddol ac adfywio cymunedol allweddol. Y mae ein Cyfarwyddwr yn cynrychioli’r Ymddiriedolaethau lleol ar Fforwm Datblygu Cynaliadwy Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru a Rhwydwaith Economi Gymdeithasol. Trwy ein gwaith eiriol, byddwn yn rhoi cyfraniad o ran ymarfer i bolisi, a bu gennym rôl allweddol yn datblygu agenda’r llywodraeth mewn meysydd sydd yn cynnwys busnes a’r amgylchedd a’r economi cymdeithasol.

Y mae gennym gylch gorchwyl i weithio ledled Cymru a chyflwyno nifer o raglenni i Gymru gyfan. Mae’r rhaglen Gwasanaethau Busnes Amgylcheddol yn canolbwyntio ar wella perfformiad amgylcheddol ac economaidd busnesau er mwyn eu gwneud yn fwy cystadleuol. Mae’r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy yn cwmpasu rôl Groundwork yn Rhwydwaith Gefnogi Cymunedau’n Gyntaf ac Amgylchedd Cymru, rheoli ein prosiect Pobl, Lleoedd a Ffyniant Amcan 1, sydd yn fater o feithrin gallu mewn cymunedau ac yn Groundwork ei hun, ac arwain yn strategol ar brosiectau ar draws yr Ymddiriedolaethau sydd yn canolbwyntio ar iechyd, ieuenctid, addysg a datblygu cymunedol.

Cyfarwyddwr Gweithredol - Ian McIntosh

Cysylltwch a ni - Groundwork Wales

  • Prict IconPrintiwch y dudalen hon
  • Map o’r Safle|
  • Privacy Policy|
  • Disclaimer|
  • © Groundwork 2009
  • Groundwork Cymru - Elusen Gofrestredig Rhif: 1096662 / Cofrestredig yng Nghymru: 03577896
Welsh Assembly Government