
Cawsom ein sefydlu yn wreiddiol fel Ymddiriedolaeth Groundwork Islwyn ym Medi 1990, gan ehangu wedi hynny i Gwm Rhymni a newid ein henw i Groundwork Caerffili ym 1996 pan ddaeth holl ardal y Fwrdeistref Sirol o fewn ein maes gwaith. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd megis Rhymni yn y gogledd, Nelson yn y gorllewin, y Bontnewydd a Rhisca yn y dwyrain a Chaerffili yn y de. Mae lefelau uchel o amddifadedd yn y Fwrdeistref Sirol, gyda phedair ar bymtheg o wardiau ac is-wardiau yn gymwys gan fenter Cymunedau’n Gyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr ail uchaf yng Nghymru.
Mae Groundwork Caerffili yn gweithredu o ddau safle; ei phrif ganolfan yn Swyddfeydd Mynyddislwyn ym Mhontllanfraith, adeilad rhestredig graddfa II, sef Siambr Cyngor Bwrdeistref Islwyn gynt, a’r Fenter Dodrefn Cymunedol, ym mhen gogleddol Cwm Rhymni.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn rhedeg ystod eang o raglenni gan gynnwys Rhwydweithiau Amgylcheddol Cymunedol, Addysg ar gyfer Datblygu Cynnaliadwy a Gwasanaethau Busnes Amgylcheddol. Mae’n chwarae rhan allweddol o ran cyflwyno Cymunedau’n Gyntaf yn y Fwrdeistref Sirol ac y mae’n arwain yr Ymddiriedolaethau Cymreig ar faterion lleihau gwastraff ac ailgylchu trwy waith arloesol mewn Menter Dodrefn Cymunedol.
Fel mudiad allweddol mewn adfywio lleol a datblygu cynaliadwy, mae Groundwork Caerffili yn gweithio’n agos gyda’i phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyflwyno strategaethau lleol a rhanbarthol a chyfrannu at amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyfarwyddwr Gweithredol - Katy Hollings
Cysylltwch a ni - Groundwork Caerffili