Groundwork in Wales

English
  • Beth yw Groundwork yng Nghymru
  • Am Ein Gwaith
  • Beth fedr Groundwork wneud i chi?
  • Latest News
  • Downloads
  • Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot
  • Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf
  • Groundwork Caerffili
  • Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint
  • Groundwork Cymru
  • Green Dragon EMS
  • Valleys Regional Park
  • Cefnogwch ein Gwaith
  • Swyddi a Gwirfoddoli
  • Links
  • Cysylltwch a ni
Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot

newid lleoedd, newid bywydau

Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot

Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot

BRIDGEND 354_Bi

Ffurfiwyd Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot ym 1989 fel Ymddiriedolaeth Groundwork Ogwr. Yr ydym wedi datblygu portffolio eang o brosiectau sydd wedi dylanwadu ar adfywio rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig cymoedd y de. Yr ydym wedi ein sefydlu ein hunain fel y partner adfywio allweddol nid yn unig ym Mhen-y-bont, ond hefyd ers 2001, ym Mwrdeistref Sirol Castell Nedd Porth Talbot.

Mae ein prif swyddfeydd ar hyn o bryd ym Mhen-y-bont ym Mharc Tondu, gwaith haearn o oes Fictoria a adnewyddwyd gennym a’i drawsnewid fel rhan o raglen Newid Lle. Y mae’r safle 4.7 Ha ar agor i’r cyhoedd ac yn cael defnydd helaeth gan y gymuned leol, gan ymgorffori trac beiciau, trac BMX a chanolfan addysg ac adnoddau. Y mae gan yr Ymddiriedolaeth hefyd swyddfa yng Nghastell Nedd Porth Talbot a nifer o is-swyddfeydd cysylltiedig â’r prosiect gan gynnwys YouthWorks yn Wildmill a Chanolfan BYWYD y Betws, y ddau ym Mhen-y-bont.

Gan weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau lleol a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, cawsom enw da am ddatblygu a chyflwyno prosiectau o ansawdd uchel. Mae gan yr Ymddiriedolaeth dair uned fusnes graidd, Adfywio Cymunedol, Adfywio Amgylcheddol ac Adfywio Cynaliadwy. Ym mhob uned fusnes, datblygodd yr Ymddiriedolaeth lawer rhaglen gan gynnwys Gweithredu Amgylcheddol, YouthWorks, Byw’n Iach, y Farchnad Lafur Ganolraddol, Twristiaeth Werdd, Dylunio Tirwedd, Gwasanaethau Busnes Amgylcheddol ac Ynni.

Ers ei sefydlu, tyfodd ein Hymddiriedolaeth yn sylweddol a chael llawer o staff proffesiynol gan gynnwys swyddogion cymunedol, gweithwyr ieuenctid, swyddogion addysg, artistiaid amgylcheddol, penseiri tirwedd, ymgynghorwyr busnes amgylcheddol, arbenigwyr mewn ynni a chydlynwyr hyfforddi a chyflogaeth. Mae dwyn ynghyd sgiliau a phrofiad yr aelodau staff hyn yn galluogi’r Ymddiriedolaeth i ddatblygu a gweithredu prosiectau mentrus a pherthnasol sydd yn ymdrin yn effeithiol ag anghenion y cymunedau yr ydym yn gweithio gyda hwy.

Cyfarwyddwr Gweithredol - Mark Evans

Cysylltwch a ni - Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot

  • Prict IconPrintiwch y dudalen hon
  • Map o’r Safle|
  • Privacy Policy|
  • Disclaimer|
  • © Groundwork 2009
  • Groundwork Cymru - Elusen Gofrestredig Rhif: 1096662 / Cofrestredig yng Nghymru: 03577896
Welsh Assembly Government