Mae ein gwaith dan bennawd Ffyniant yn fater o helpu cwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus i wella eu perfformiad amgylcheddol ac economaidd, creu cyfle am hyfforddiant a gwaith, a chefnogi adfywio cymunedol trwy dwristiaeth werdd ac adeiladu cyfalaf economaidd.
Ein maes gwaith mwyaf dan Ffyniant yw ein rhaglen Gwasanaethau Busnes Amgylcheddol, a gyflwynir yn genedlaethol gyda’n partneriaid i hybu arferion da amgylcheddol, annog defnyddio systemau rheoli amgylcheddol a gwella ansawddamgylcheddol safleoedd busnes unigol a stadau diwydiannol ehangach.
Mae prosiectau eraill yr Ymddiriedolaeth yn cyfrannu at dwf economaidd ac adfywio trwy brosiectau yn ymwneud â thwristiaeth, ynni cynnaliadwy, gwastraff ac ailgylchu a datblygu’r economi cymdeithasol. Mae’r mathau hyn o brosiectau hefyd yn rhoi hyfforddiant a gwaith ystyrlon i wella sgiliau a gallu pobl leol.