Groundwork in Wales

English
  • Beth yw Groundwork yng Nghymru
  • Am Ein Gwaith
    • Pobl
    • Lleoedd
    • Ffyniant
    • Partneriaethau
  • Beth fedr Groundwork wneud i chi?
  • Latest News
  • Downloads
  • Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot
  • Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf
  • Groundwork Caerffili
  • Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint
  • Groundwork Cymru
  • Green Dragon EMS
  • Valleys Regional Park
  • Cefnogwch ein Gwaith
  • Swyddi a Gwirfoddoli
  • Links
  • Cysylltwch a ni
Lleoedd

newid lleoedd, newid bywydau

Am Ein Gwaith » Lleoedd

Lleoedd Lleoedd

Cred Groundwork fod gwelliannau ffisegol yn hanfodol i wella ansawdd bywydau pobl, ac yn elfen sylfaenol o adfywio tymor hir. Mae gwaith ar yr elfen ffisegol yn bwysig yn y rhaglenni dan y thema Pobl.

Mae ein gwaith Lleoedd yn cynnwys ein gwaith amgylcheddol ffisegol gyda chymunedau, sydd yn canolbwyntio ar wella neu adfer i ddefnydd cyhoeddus dir diffaith neu dir a esgeuluswyd. Mae’r prosiectau yn amrywio o ran maint o barciau bychain mewn cymunedau unigol i adfer darnau helaethach o dir. Yr ydym hefyd yn rhedeg prosiectau sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd adeiledig, gwella tai, mwynderau cyhoeddus a chyfleusterau hamdden fel rhan o’n gwaith adfywio ehangach.

Mae ‘Lleoedd’ yn cwmpasu ein gwaith o ddatblygu llwybrau cymunedol ar gyfer cerdded a beicio, sydd yn rhoi manteision iechyd a chydlynu cymdeithasol yn ogystal â bod yn ddull cludiant arall, cynnaliadwy. Bu’r prosiectau hyn, sydd yn creu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth ac yn gwella economïau lleol, yn un o elfennau ymwneud cynyddol Groundwork yn yr agenda twristiaeth werdd ehangach yng Nghymru.

Mae ein prosiectau eraill yn cynnwys creu gwarchodfeydd natur, parciau eco a chanolfannau gweithgareddau awyr agored a gweithio gyda’n partneriaid i hybu ac annog defnydd cyfrifol o goetiroedd a chefn gwlad ar gyfer hamdden a gweithgaredd corfforol.

  • Prict IconPrintiwch y dudalen hon
  • Map o’r Safle|
  • Privacy Policy|
  • Disclaimer|
  • © Groundwork 2009
  • Groundwork Cymru - Elusen Gofrestredig Rhif: 1096662 / Cofrestredig yng Nghymru: 03577896
Welsh Assembly Government