Mae Groundwork yn gweithio yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad, yn aml lle mae trai’r diwydiannau traddodiadol wedi arwain at golli swyddi, colli balchder mewn cymdeithas a chydlynu cymdeithasol. Mae’r cymunedau hyn yn dueddol o ddioddef diweithdra uchel, iechyd gwael a diffyg buddsoddi cyhoeddus.
Yr ydym yn chwarae rhan allweddol yn adfywio’r cymunedau hyn, gan weithio gyda phobl ar brosiectau sydd yn gwella’r amgylchedd lleol, ac ar yr un pryd yn rhoi cyfle i unigolion a grwpiau ddatblygu sgiliau a hyder newydd.
Mae prosiectau ‘Pobl’ yn canolbwyntio ar rymuso pobl a’u dwyn i mewn i ymrwymo mwy i ddatblygu cynnaliadwy a chreu cyfleoedd i bobl ddatblygu sgiliau newydd a gweithredu yn lleol. Y mae hyn yn gysylltiedig i raddau helaeth â’n gwaith o ddatblygu a chefnogi rhwydweithiau amgylcheddol cymunedol, gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol i gyflwyno gwelliannau amgylcheddol ymarferol.
Defnyddir ‘Pobl’ hefyd i ddisgrifio prosiectau sydd yn canoli yn bennaf ar iechyd, ieuenctid, gwirfoddoli ac addysg ar gyfer datblygu cynnaliadwy neu brosiectau sydd yn dwyn pobl i mewn trwy ddiwylliant a threftadaeth ddiwylliannol neu gelfyddyd amgylcheddol.