Groundwork in Wales

English
  • Beth yw Groundwork yng Nghymru
  • Am Ein Gwaith
    • Pobl
    • Lleoedd
    • Ffyniant
    • Partneriaethau
  • Beth fedr Groundwork wneud i chi?
  • Latest News
  • Downloads
  • Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot
  • Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf
  • Groundwork Caerffili
  • Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint
  • Groundwork Cymru
  • Green Dragon EMS
  • Valleys Regional Park
  • Cefnogwch ein Gwaith
  • Swyddi a Gwirfoddoli
  • Links
  • Cysylltwch a ni
Partneriaethau

newid lleoedd, newid bywydau

Am Ein Gwaith » Partneriaethau

Partneriaethau Partneriaethau

Bu gweithio mewn partneriaeth yn wastad yn ganolog i agwedd Groundwork, ac y mae’n elfen allweddol o’n llwyddiant yn adeiladu cymunedau cynnaliadwy.

Mae pob un Ymddiriedolaeth Groundwork yn bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae Ymddiriedolaethau yn eistedd ar bartneriaethau strategol ac yn gweithio’n agos gyda’u hawdurdodau lleol a budd-ddeiliaid cymunedol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn canoli ar angen a blaenoriaethau lleol.

Mae Groundwork Cymru yn bartner yn Rhwydwaith Gefnogi Cymunedau'n Gyntaf, Amgylchedd Cymru ac ym Mhartneriaeth Troi'r Cymoedd yn Wrydd, gan weithio i gyflwyno mentrau’r llywodraeth a dwyn lles ac elw i gymunedau ledled Cymru.  Mae Cyfarwyddwr Groundwork Cymru yn eistedd ar bartneriaethau gan gynnwys Cyswllt Amgylchedd Cymru, Fforwm Datblygu Cynnaliadwy Cymru a Grwp Ymgynghorol Amcan 1 ar Adfywio economaidd Cymunedol. Mae’r Ymddiriedolaethau yn eistedd ar lawer o fforymau a phartneriaethau leol sy’n gyfrifol am yrru Cymunedau’n Gyntaf, Strategaethau Cymunedol, datblygu economaidd, cyllid Ewropeaidd, addysg a mynediad a gwaith ar gefn gwlad.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda chyrff megis Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithio Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.  Mae pobl yn gweld ein gwerth am ein bod yn  helpu i gyflwyno amcanion ein partneriaid allweddol a rhai Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Byddwn hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i roi gwybodaeth a dylanwad ar ddadleuon ynghylch polisi a, lle bo modd, yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector preifat.

Fel rhan o Ffederasiwn Ymddiriedolaethau Groundwork, gallwn fanteisio ar brofiad ac arferion da Ymddiriedolaethau a sefydliadau yn y DU a ledled y byd sy’n bartneriaid.

  • Prict IconPrintiwch y dudalen hon
  • Map o’r Safle|
  • Privacy Policy|
  • Disclaimer|
  • © Groundwork 2009
  • Groundwork Cymru - Elusen Gofrestredig Rhif: 1096662 / Cofrestredig yng Nghymru: 03577896
Welsh Assembly Government